Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau ei thîm o ymgeiswyr yn etholaeth newydd Brycheiniog Tawe Nedd ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026.
Y pedwar ymgeisydd gorau gafodd eu dewis ar gyfer Brycheiniog Tawe Nedd ydy:
– Sioned Williams, un o Aelodau presennol y Blaid yn y Senedd, sy’n cynrychioli rhanbarth Gorllewin De Cymru
– Rebeca Phillips, Cynghorydd Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ardal Trebanos
– Andrew Jenkins, ymgyrchydd cymunedol o Gastell-nedd
– Justin Horrell, Cynghorydd Abercraf ar Gyngor Tref Ystradgynlais
Dywedodd Sioned Williams fod “gwasanaethu ei bro am y pedair blynedd ddiwethaf yn y Senedd wedi bod yn anrhydedd enfawr, ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis yn brif ymgeisydd tîm Plaid Cymru cryf ac ymroddedig dros Frycheiniog Tawe Nedd.
“Mae Plaid Cymru yn sefyll dros Gymru well – Cymru decach, Cymru wyrddach a mwy cyfartal – ac rwy’n falch bob dydd o fod yn rhan o’r genhadaeth honno.
“Ac er fy mod i’n credu bod Plaid Cymru wedi llwyddo i ddwyn Llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif ac wedi dadlau dros ein gwerthoedd a’n polisïau yn ystod tymor presennol y Senedd, mae’n bryd nawr i ni arwain y llywodraeth, oherwydd mae cymaint o anghydraddoldeb i’w herio, cymaint o wasanaethau i’w hamddiffyn, a gormod o gymunedau, fel ein un ni, yn cael eu gadael ar ôl.
“Rydym ni’n dîm sydd wedi’i wreiddio yn ein cymunedau lleol, a fydd bob amser yn rhoi anghenion Cymru yn gyntaf, gan ymladd dros y tegwch a’r newid go iawn y mae pobl yn yr ardal hon, sydd eisoes wedi dangos eu bod wedi cael digon o gael eu hanwybyddu gan bleidiau’r Deyrnas Unedig, yn dweud eu bod nhw eisiau ei weld.”
Fe ychwanegodd Rebeca Phillips ei bod hi “wedi bod yn fraint enfawr gwasanaethu Plaid Cymru a thrigolion Trebannws am y 13 mlynedd diwethaf.”
“Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o dîm o ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer etholiad y flwyddyn nesaf ac rwy’n sefyll oherwydd fy mod yn gwybod y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Cymru.”
Ac wrth adlewyrchu ar yr her fydd yn wynebu’r Blaid yn yr etholaeth newydd, fe ychwanegodd Justin Horrell fod “Brycheiniog Tawe Nedd yn etholaeth eang ac amrywiol, ond un sydd wedi’i huno gan yr angen am newid.”
“Edrychaf ymlaen at ymgyrchu fel rhan o’r tîm cryf hwn ar draws yr ardal i ennill cefnogaeth pobl a dod â neges Plaid Cymru o degwch ac uchelgais i bob cymuned.”