
Mae pobl Cymru yn troi tuag at Blaid Cymru, ac mae gennym gyfle i gyflawni rhywbeth hanesyddol ym mis Mai: Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru am y tro cyntaf erioed.
Ni allwn gymryd dim yn ganiataol, ond mae’n glir fod yr etholiad hwn yn siapio i fod yn ddewis uniongyrchol rhwng Plaid Cymru a Reform UK – ac mae’r polau barn yn dangos bod mwy a mwy o bobl yn dewis gweledigaeth gadarnhaol Plaid Cymru ar gyfer Cymru.
Ond mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn dal ati i wthio ymlaen ac yn gweithio’n galetach fyth i sicrhau canlyniad hanesyddol i Gymru.
Dyma sut y gallwch chi helpu i wneud hanes a helpu i sicrhau llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru ar 7 Mai:
Bydd unrhyw swm, bach neu fawr, yn gwneud gwahaniaeth. Dyma restr o’n blaenoriaethau codi arian:
£1000 – 25,000 o lythyrau i bleidleiswyr post
£500 – Hysbyseb cyfryngau cymdeithasol ar gyfer yr etholaeth
£140 – Papurau newydd i 2,500 o gartrefi
£85 – 10 bwrdd gardd
£37 – 1,000 o daflenni ward
£25 – Hysbyseb cyfryngau cymdeithasol ar lefel ward
£10 – Bathodynnau ymgyrchu
Diolch am gymryd yr amser i ddarllen hyn ac am ystyried cefnogi ein hymgyrch. P’un a ydych yn rhoi rhodd, yn cymryd rhan, neu’n syml yn rhannu ein neges, mae eich cefnogaeth yn bwysig. Gyda’n gilydd, gallwn wneud hanes a sicrhau llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru sy’n rhoi Cymru yn gyntaf.
