
Mae’n fraint cael sefyll fel un o ymgeiswyr Plaid Cymru dros sedd newydd y Senedd, Brycheiniog Tawe Nedd. Cefais fy ngeni yng Nghastell-nedd a’m magu yn Resolven, ac rwy’n byw bellach yng Nghimla gyda’m gwraig, ein mab a llwyth cynyddol o gathod. Cefais fy addysg yn Ysgol Gynradd Ynysfach ac Ysgol Gyfun Llangatwg, ac ar ôl gadael coleg am resymau personol, dychwelais at addysg gan ennill gradd BA a MA ym Mhrifysgol Abertawe.
O’m swyddi cynnar yng Ngwesty’r Castle yng Nghastell-nedd ac yn HMV yn Abertawe, rwy’n gweithio heddiw fel Uwch Swyddog Cyswllt Cymunedol, yn cefnogi pobl a sefydliadau lleol ac yn helpu cymunedau i gael llais cryfach yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Rwy’n gyn Gynghorydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, lle cefais y fraint o gynrychioli fy ward gartref, De Castell-nedd. Rwyf hefyd wedi gweithio fel Swyddog Polisi i Age Cymru ac fel Cynorthwyydd Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe ar brosiectau hawliau plant.
Rwyf wedi gwirfoddoli gyda sawl elusen leol, ac ar hyn o bryd rwy’n gwirfoddoli gyda grŵp ieuenctid fy mab. Rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, a grymuso cymunedau i lunio eu dyfodol eu hunain.