Rebeca Phillips

Fy enw i yw Rebeca Phillips, ac rwy’n falch iawn i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai. Ar hyn o bryd rwy'n byw yn Rhos, Pontardawe gyda fy ngŵr a dau o blant ifanc. Rwy'n falch o fod wedi gwasanaethu Plaid Cymru fel Cynghorydd Sir dros ward Drebannws ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd a Phort Talbot ers 2012, gan ennill y sedd i'r Blaid am y tro cyntaf a thair gwaith ers hynny. Ar hyn o bryd rwy'n eistedd fel Cadeirydd pwyllgor craffu Addysg, Sgiliau a Lles y Cyngor Sir yn ogystal â bod yn gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe.

 

Ar hyn o bryd rwy'n gweithio i Fenter Iaith Castell Nedd Port Talbot – yn trefnu digwyddiadau i hyrwyddo'r Iaith Gymraeg ar draws y sir. Cyn hyn, gweithiais i nifer o Aelodau etholedig Plaid Cymru am 15 mlynedd gan gynnwys Rhodri Glyn Thomas, Jonathan Edwards ac Adam Price.

 

Rwy'n teimlo ei bod hi'n bryd nawr defnyddio fy mhrofiadau i fod yn llais i'r rhai sy'n teimlo nad oes ganddynt le mewn gwleidyddiaeth ac wrth lunio dyfodol ein gwlad. Mae

gormod o bobl yn teimlo eu bod wedi cael eu siomi gan wleidyddion ac wedi colli pob ffydd. Rwy'n gwybod bod gan Blaid Cymru'r syniadau a'r weledigaeth i greu Cymru well ond rhaid i ni gael yr aelodau etholedig a fydd yn dod â phobl gyda ni, i annog pleidleiswyr newydd Plaid Cymru ac i gyfleu ein neges iddyn nhw.

Os caf fy ethol, rwyf wedi ymrwymo i bobl Brycheiniog Tawe Nedd i sicrhau bod ganddydnt llais, fy mod I ar gael i gyfarfod yn rheolaidd ag etholwyr ac i sefyll drostynt yn y Senedd.

 

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr her hon ac yn gofyn i chi am eich cefnogaeth i sicrhau bod gennym wleidyddion ym Mae Caerdydd a fydd yn sefyll lan dros bobl gyffredin ac sydd eisiau gweld newid cadarnhaol ar gyfer dyfodol ein trigolion.