Sioned Williams

Rwy'n falch o fod yn sefyll i gael fy ail-ethol i fel prif ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Seneddol newydd Brycheiniog Tawe Nedd. Rwy'n byw gyda fy ngŵr a'm dau blentyn yn yr Alltwen yng Nghwm Tawe. Ces i fy ethol yn AS dros Orllewin De Cymru yn 2021 ac rwy'n llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar.

Cyn cael fy ethol i'r Senedd, roeddwn yn Gadeirydd ar Gyngor Cymuned Cilybebyll ac fe fûm yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Pontardawe ac yn Rhiant-Lywodraethwr yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Roeddwn yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru cyn mynd i weithio i Brifysgol Abertawe fel Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu. Rwyf hefyd wedi gweithio i Blaid Cymru fel Pennaeth Cyfathrebu Strategol. Yn siaradwr Cymraeg rhugl, cefais fy addysgu yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd.

 

 

Dilynwch Sioned!